SWYDDOG CYMORTH BUSNESCyflog: Raddfa cyfredol £28,064 I £35,034 y flwyddyn, dibynu ar brofiad (gyda dyfarniad cyflog blynyddol yn.....
SWYDDOG CYMORTH BUSNES
Cyflog: Raddfa cyfredol £28,064 I £35,034 y flwyddyn, dibynu ar brofiad (gyda dyfarniad cyflog blynyddol yn yr arfaeth)
Pecyn buddianau hael: Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, Gweithio Ystwyth, 30 diwrnod o wyliau blynyddol + Gwyliau’r Banc a diwrnodau dewisol ychwanegol, AVCS
Cytundeb: Parhaol
Oriau: Llawn Amser, 35 awr yr wythnos
Lleoliad gwaith: Yn un o swyddfeydd Addysg Oedolion Cymru yng Nghymru: Bangor, Caerdydd, Glyn Ebwy, Y Drenewydd, Abertawe a Wrecsam yn cynnwys gweithio’n hyblyg o gartref am rhan o’r wythnos gwaith.
Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol ymroddedig i ymuno â'n tîm fel Swyddog Cymorth Busnes. Yn y rôl allweddol hon, byddwch yn gyfrifol am ddarparu cymorth gweinyddol o lefel uchel i'r Pennaeth Cwricwlwm a Pherfformiad. Byddwch yn gweithio'n agos ac ar y cyd â'r Pennaeth Cwricwlwm a Pherfformiad i reoli tasgau gweinyddol, Cymorthwyo i gydlynu prosiectau a sicrhau bod safonau uchel yn cael eu cynnal ar draws y Sefydliad o ran cyflwyno cwricwlwm a rheoli perfformiad.
Prif ddyletswyddau:
· Cynorthwyo Pennaeth Cwricwlwm a Perfformiad gyda ddatblygu a monitro cynlluniau Gwella cwricwlwm ac Ansawdd.
· Gwaith gweinyddu cyfarfodydd, darparu a chreu cofnodion ar gyfer y cyfarfodydd hyn.
· Cynorthwyo i gydlynu a rheolaeth y broses hunan-asesu flynyddol
· Gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol wrth gasglu data a gwybodaeth ar gyfer paratoi adroddiadau sefydliadol
Mae profiad mewn rôl debyg I’w groesawy, ond fel cyflogwr sy'n awyddus i gefnogi datblygu sgiliau unigol, rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer unigolion sydd â'r sgiliau, y galluoedd a'r brwdfrydedd ac sy'n dymuno tyfu a datblygu yn y rôl.
Rydym wedi ymrwymo i adeiladu gweithle amrywiol a chynhwysol lle mae pob llais yn cael ei glywed a'i werthfawrogi. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir, profiad a phersbectif i ymgeisio.
Amdanoch chi
Rydym yn chwilio am rywun sy'n angerddol ac sydd â hanes profedig mewn rôl debyg. Dylech feddu ar sgiliau trefnu rhagorol, llygad craff am fanylion, a'r gallu i weithio'n effeithiol dan bwysau. Mae eich sgiliau cyfathrebu heb eu hail, a byddwch yn gallu cydweithio ag ystod eang o randdeiliaid.
Byddwch yn rhannu ein hymrwymiad i werthoedd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac yn cael eich cymell gan y cyfle i gyfrannu at lwyddiant sefydliad sy'n ymroddedig i drawsnewid bywydau.
Os ydych yn mwynhau amgylchedd gwaith cyflym, amrywiol a gwerth chweil a bod gennych y sgiliau gofynnol, dyma'r cyfle perffaith i ymuno â ni.
Gofynion Hanfodol:
• Profiad flaenorol mewn rôl cymorth busnes neu rôl weinyddol
• meddu ar sgiliau gweinyddol cryf a'r gallu i ddarparu cymorth ar gyfer cyfarfodydd sy'n cynnwys trefnu dyddiadau, archebu ystafelloedd a pharatoi agendâu, cymryd nodiadau ac unrhyw dasgau cysylltiedig eraill
• Profiad o weithio gyda chwsmeriaid mewnol ac allanol naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn
• Cydweithiwr tîm cryf yn y gwaith gyda'r gallu i gydweithio ar draws gwahanol lefelau yn y sefydliad.
• Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol
Dymunol:
• Profiad o weithio yn sector Addysg Bellach neu gyda sefydliadau elusennol
• Rhyglder yn y Gymraeg neu ymrwymiad I ddysgu
• Dealltwriaeth o'r heriau strategol sy'n wynebu sefydliadau addysg oedolion.
Sut i wneud cais:
Gwnewch gais drwy gwblhau ffurflen gais ar gael ar wefan Addysg Oedolion Cymru
Sylwch na fydd CV heb ffurflen gais wedi'i chwblhau yn dderbyniol.
Dyddiad cau y swydd hon: 12:00yp Dydd Llun 25ain Tachwedd 2024
Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn y naill iaith neu'r llall yn cael eu trin yn gyfartal.